SL(5)394 – Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2019

Cefndir a Diben

Gwneir y Gorchymyn hwn gan Weinidogion Cymru yn unol ag adrannau 3, 4(1) a 17 o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014. Mae'n gwneud darpariaeth ynghylch y cyfraddau tâl isaf a'r telerau ac amodau cyflogaeth eraill i weithwyr amaethyddol.

Mae'r Gorchymyn yn dirymu ac yn disodli, yn ddarostyngedig i rai newidiadau a darpariaeth drosiannol, Orchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2018 (“Gorchymyn 2018”) ac, felly, mae'n cynyddu cyfraddau tâl 2018 i weithwyr amaethyddol.

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Nodwyd tri phwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae erthygl 15(1) yn cadarnhau, pan fo cyflogwr, mewn unrhyw wythnos, yn darparu tŷ i weithiwr amaethyddol am y cyfan o’r wythnos honno, y caiff y cyflogwr dynnu’r swm o £1.50 oddi ar isafswm cyflog y gweithiwr amaethyddol ar gyfer yr wythnos honno.

Mae erthygl 15(2) yn cadarnhau, pan fo cyflogwr, mewn unrhyw wythnos, yn darparu “llety arall” i weithiwr amaethyddol, y caiff y cyflogwr, yn ddarostyngedig i amodau penodol, dynnu’r swm o £4.82 oddi ar isafswm cyflog y gweithiwr amaethyddol am bob diwrnod yn yr wythnos y darperir y llety arall i’r gweithiwr.

Pennir isafswm cyflog gweithiwr amaethyddol yn unol ag Erthygl 12 o'r Gorchymyn, ac Atodlen 4 iddo, sy'n nodi'r cyfraddau isaf fesul awr.

Gellir dehongli erthyglau 15(1) a (2) fel rhai sy'n caniatáu i gyflogwr wneud:

a)    didyniadau o £1.50 a £4.82 yn y drefn honno o'r gyfradd fesul awr y mae isafswm cyflog gweithiwr amaethyddol yn cael ei gyfrifo yn unol â hi; neu

b)    ddidyniadau net o £1.50 a £4.82 yn y drefn honno,

ar gyfer y cyfnodau perthnasol y'u cyfeirir at y darpariaethau hynny, ac yn yr amgylchiadau a ddisgrifir ynddynt.

Mae Erthygl 15 yn dyblygu darpariaeth sydd wedi'i chynnwys yng Ngorchymyn 2018. Yn ystod gwaith craffu ar Orchymyn 2018, gofynnodd y Pwyllgor am y gwaith drafftio hwn. Yn ei hymateb, gwrthododd Llywodraeth Cymru y pwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor. Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor o'r farn y dylid adolygu gwaith drafftio Erthygl 15 yn y Gorchymyn hwn yn sgil y cwmpas clir ar gyfer dehongliad amgen o'r didyniadau a ganiateir.

 

2. Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae Erthygl 21(2) yn pennu uchafswm nifer yr wythnosau y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael tâl salwch amaethyddol ar eu cyfer yn ystod pob cyfnod hawl. Pennir uchafswm perthnasol nifer yr wythnosau drwy gyfeirio at hyd cyflogaeth gweithiwr gyda'r un cyflogwr. Mae pum lefel sefydlog o hawl wedi'u nodi yn Erthygl 21(2), sy'n amrywio rhwng 13 a 26 wythnos o hawl.

Mae gwaith drafftio'r ddarpariaeth hon yn defnyddio fformat “o leiaf [x] mis ond heb fod yn fwy na [x] mis” i ddisgrifio hyd y gyflogaeth y mae pob lefel o hawl yn gymwys iddo. Er enghraifft, mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael tâl salwch amaethyddol am 16 wythnos pan fo'r gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan yr un cyflogwr am “o leiaf 24 mis ond heb fod yn fwy na 36 mis” (yn ôl Erthygl 21(2)(b)).

Mae'n ymddangos bod canlyniad anfwriadol i'r dull drafftio hwn, sef y gallai dwy lefel wahanol o hawl fod yn gymwys ar gyfnodau penodol yn ystod cyfnod cyflogaeth cyflogai, sef 24, 36, 48 a 59 mis yn union yn y drefn honno. Er enghraifft, os yw gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi am 24 mis yn union, yn unol â darpariaethau'r Gorchymyn, gellid ystyried bod gan y gweithiwr hwnnw hawl i:

a)    dâl salwch am 13 wythnos (yn seiliedig ar fod yn gyflogedig heb fod yn fwy na 24 mis yn ôl Erthygl 21(2)(a)); a hefyd,

b)    dâl salwch am 16 wythnos (yn seiliedig ar fod yn gyflogedig am o leiaf 24 mis yn ôl Erthygl 21(2)(b)).

3. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.

Yn Erthygl 22(3)(a) o fersiwn Gymraeg y Gorchymyn, mae'n ymddangos y dylai 'dwy rannu' ddarllen 'drwy rannu' yn lle hynny.

Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Trafodaeth y Pwyllgor

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth 2019 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau technegol uchod.